Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/04/2024 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
a’r tystion i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Russel George AS; roedd James
Evans AS yn dirprwyo ar ei ran. Roedd gan David Rees a James Evans fuddiannau
i’w datgan gan fod aelodau o’u teuluoedd yn gweithio yn y Gwasanaethau Plant. |
||
(10.00 - 11.30) |
Plant â phrofiad o fod mewn gofal Vaughan Gething AS,
Prif Weinidog Cymru. Alistair Davey, Dirprwy
Gyfarwyddwr Galluogi Pobl, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Integreiddio. Taryn Stephens, Dirprwy
Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwelliant. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog mewn
perthynas â’r polisi'n ymwneud â phlant â phrofiad o fod mewn gofal. |
|
(11.30 - 12.30) |
Craffu cyffredinol Vaughan Gething
MS, Prif Weinidog Cymru. Rachel
Garside-Jones, Cyfarwyddwr y Cytundeb Cydweithio. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar
bynciau’r dydd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod
y ddwy sesiwn. 5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog. |
||
Trafod cyfarfodydd y dyfodol Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal y cyfarfod nesaf ar 12
Gorffennaf a Chymunedau Gwledig fydd y pwnc dan sylw. |