Y Pwyllgor Biliau Diwygio

Gwybodaeth am y Pwyllgor

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.49, mae’r Cadeirydd wedi cytuno y caiff Jane Dodds AS (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Pwyllgor a gweithgareddau cysylltiedig, er na chaiff fwrw pleidlais.

Cyfrifoldebau

Rôl y Pwyllgor yw ystyried y Biliau y bydd Pwyllgor Busnes y Senedd yn eu cyfeirio ato.

Ar hyn o bryd mae'n ystyried egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), a gyflwynwyd yn ffurfiol i Senedd Cymru ar 11 Mawrth 2024.

Y Bil cyntaf a ystyriodd oedd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a gyflwynwyd yn ffurfiol i Senedd Cymru ar 18 Medi 2023 fel rhan o Ddiwygio'r Senedd. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 19 Ionawr 2024.

I gael rhagor o fanylion am y Pwyllgor, ei aelodau, a hynt ei waith, ewch i’r dudalen hon.

Deddfwriaeth

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 12 Gorffennaf 2023 i graffu ar Filiau a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu naill ai:

i) pan fydd yr holl Filiau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor wedi cael y Cydsyniad Brenhinol ac mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu na fydd unrhyw Filiau pellach yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor; neu

ii) pan fydd y Senedd yn penderfynu felly;

pa un bynnag sydd gynharaf.

Aelodau'r Pwyllgor