Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Tybaco a Fêps
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Tybaco a Fêps
Cyflwynwyd y Bil
Tybaco a Fêps (y Bil) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 20 Mawrth 2024.
Mae enw hir y Bil
yn dweud mai diben y Bil yw gwneud darpariaeth ynghylch cyflenwi tybaco, fêps a
chynhyrchion eraill, gan gynnwys darpariaeth i wahardd gwerthu tybaco i bobl a
gafodd eu geni ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl hynny; a galluogi gosod gofynion o ran
cynhyrchion mewn cysylltiad â thybaco, fêps a chynhyrchion eraill.”.
Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad
deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma
pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater
sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2024
Gosododd
Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 316KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 9 Mai
2024.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/05/2024